Ryseitiau
Colomen Gyda Salsa Mango, Saws Gwin Coch a Finag Balsamaidd
Cynhwysion
y golomen
- 4 Colomen
- Pinsied o halen a phupur
- 1 llwy fwrdd siwgwr mân
- 1 llwy de powdwr cinamon
Cynhwysion y salsa
- 1/2 Mango, heb y croen ac wedi giwbio
- 2 shibwns wedi eu sleisio’n denau
- zest a sudd ½ leim
- Llond llaw o ddail coriander wedi dorri’n fân
- 1 llwy de olew olewydd
- Pinsied o halen
- Pinsied o sigwr mân
Cynhwysion y Saws
- 1/2 Potel o Win Coch
- 2 lwy fwrdd finag Balsamaidd
- 2 seren anis
- 20g siwgr mân
Dull
Dull y golomen
- Torri asgwrn tynnu (wish bone) y golomen o'r frest, ac yn ofalus torri’r coesau
- Cynhesu’r olew mewn padell ffrio. Sesno'r brest a coginio’r cig ar bob ochr am ddwy funud, yna'i orchuddio gyda cawod o siwgr mân a cinamon cyn ei drosglwyddo i’r ffwrn am 4-6 munud
- Tynnu’r golomen allan o'r ffwrn a’i orffwys am ychydig cyn tynnu’r cig oddi ar yr asgwrn a’i dorri’n 4 sleisen daclus
- Rhoi llwyaid o'r salsa ar blât ag eistedd y cig ar ben y salsa
- Arllwys ychydig o'r saws ar y plât i orffen
Dull y saws
- Gadael i’r cyfan mud ferwi a’i leihau
Allweddeiriau
Dofednod & Helwriaeth Colomen Salsa Gwin Balsamig Llundain Dofednod a Gêm
