Ryseitiau


Colomen Gyda Salsa Mango, Saws Gwin Coch a Finag Balsamaidd



Cynhwysion

y golomen

  • 4 Colomen
  • Pinsied o halen a phupur
  • 1 llwy fwrdd siwgwr mân
  • 1 llwy de powdwr cinamon

Cynhwysion y salsa

  1. 1/2 Mango, heb y croen ac wedi giwbio
  2. 2 shibwns wedi eu sleisio’n denau
  3. zest a sudd ½ leim
  4. Llond llaw o ddail coriander wedi dorri’n fân
  5. 1 llwy de olew olewydd
  6. Pinsied o halen
  7. Pinsied o sigwr mân

 

Cynhwysion y Saws

  1. 1/2 Potel o Win Coch
  2. 2 lwy fwrdd finag Balsamaidd
  3. 2 seren anis
  4. 20g siwgr mân

 



Dull

Dull y golomen

  1. Torri asgwrn tynnu (wish bone) y golomen o'r frest, ac yn ofalus torri’r coesau
  2. Cynhesu’r olew mewn padell ffrio. Sesno'r brest a coginio’r cig ar bob ochr am ddwy funud, yna'i orchuddio gyda cawod o siwgr mân a cinamon  cyn ei drosglwyddo i’r ffwrn am 4-6 munud
  3. Tynnu’r golomen allan o'r ffwrn a’i orffwys am ychydig cyn tynnu’r cig oddi ar yr asgwrn a’i dorri’n 4 sleisen daclus
  4. Rhoi llwyaid o'r salsa ar blât ag eistedd y cig ar ben y salsa
  5. Arllwys ychydig o'r saws ar y plât i orffen

Dull y saws

  1. Gadael i’r cyfan mud ferwi a’i leihau

Allweddeiriau

Dofednod & Helwriaeth Colomen Salsa Gwin Balsamig Llundain Dofednod a Gêm