Ryseitiau


Cyw Iâr Wedi Ffrio Gyda Rhosmari a Lemwn



Cynhwysion

  • 4 coes cyw iâr wedi eu rhannu’n goesau a cluniau
  • 1 llwy fwrdd o bersli
  • 20g o fenyn
  • 2 sprigyn rhosmari
  • 3 gewin garlleg wedi eu sleisio
  • Halen a phupur
  • 8 llwy fwrdd o win gwyn
  • 2 lwy fwrdd o sudd lemwn
  • Croen 1 lemwn wedi gratio
  • 1 lwy fwrdd o bersli wedi’i dorri’n fân
  • 2 lwy fwrdd o flawd plaen


Dull

  1. Cynhesu’r olew mewn ffrimpan
  2. Sesno’r blawd gyda halen a phupur a gorchuddio’r cyw iâr yn ysgafn â’r gymysgedd
  3. Pan fo’r olew wedi cynhesu, ychwanegu’r menyn a’i doddi hyd nes bod swigod yn ymddangos yn y ffrimpan
  4. Coginio’r cig, ochr y croen i lawr yn gyntaf, a’u ffrio hyd nes eu bod yn troi’n liiw euraidd
  5. Ychwanegu’r rhosmari a’r garlleg a’u coginio am 5 munud- gan ofalu peidio llosgi’r garlleg
  6. Arllwys y gwin dros y cyw iâr, gosod caead ar y ffrimpan a’u coginio am 10-15 munud hyd nes bod y cig yn dyner
  7. Tynnu’r cig allan o’r ffrimpan a’i adael i sefyll tra’n ychwanegu sudd a zest y lemwn at y saws, mud ferwi’r cyfan am 5 munud a'i weini dros y cyw iâr

Allweddeiriau

Dofednod & Helwriaeth Cyw iâr Hwlffordd Dofednod a Gêm