Ryseitiau


Draenog y Môr Wedi Pobl Mewn Halen y Môr



Cynhwysion

Cynhwysion y pysgodyn

  • 1 draenog y Môr 1Kg - wedi ei lanhau a thynnu’r cen
  • 400g halen môr
  • 50 ml o ddŵr
  • 3 sbrigyn o deim ffres
  • 1 lemwn

Cynhwysion Salsa Verde

  • 3 Ffiled o brwyniaid
  • 1 gewin garlleg
  • 1 llwy fwrdd o gaprau
  • 3 llwy fwrdd persli ffres
  • 1 llwy fwrdd mint ffres
  • ½ bag o ddail roced
  • 2 llwy fwrdd olew yr olewydd
  • 1 llwy de mwstard dijon
  • Sudd a zest ½ lemwn


Dull

  1. Cynhesu’r ffwrn i wres 200ºc.
  2. Torri’r lemwn yn ei hanner a’i wthio gyda’r teim ffres i mewn i ganol y pysgodyn.
  3. Rhoi’r halen mewn powlen a’i gymysgu gyda’r dŵr
  4. Rhoi ychydig o’r gymysgedd halen ar dun pobi ac eistedd y pysgodyn ar ei ben.  Gorchuddio’r holl bysgodyn gyda gweddill yr halen, a’i bobi yn y ffwrn am 25-30 munud.
  5. Tynnu’r pysgodyn o’r ffwrn a curo’r crwst halen gyda cefn llwy er mwyn ei chwalu.  Crafu gweddill yr halen oddi ar y pysgodyn ac yna tynnu croen y pysgodyn.  Yn ofalus tynnu’r cig oddi ar yr asgwrn a’i weini yn syth gyda salsa a lemwn ffres.

Salsa Verde

  1. Torri’r mint, persli a’r roced rhoi mewn powlen yn fras, a’u rhoi mewn bowlen.
  2. Torri’r caprau ychydig a’u rhoi ar ben y perlysiau
  3. Torri’r brwyniaid a’r garlleg yn fan a’u rhoi ar ben y perlysiau
  4. Cymysgu’r olew, sudd a zest y lemwn a’r mwstard mewn powlen arall ac yna arllwys y cyfan at y perlysiau a’i gymysgu’n dda cyn ei weini gyda’r pysgodyn

Allweddeiriau

Draenog y Môr Aberystwyth Halen y Môr Salsa Verde Pysgod a Bwyd Môr