Ryseitiau


Llwyn o Borc wedi’i Rostio Gyda Stwffin Bricyll a Chnau



Cynhwysion

  • 1 Llwyn o Borc, wedi ei drimio’n Ffrengig, a’r croen wedi ei dynnu

Ar gyfer y stwffin

  • 50g o fenyn
  • 1 llwy fwrdd o olew llysiau
  • Pecyn 100g o gnau pîn
  • 200g o gennin - wedi eu sleisio’n denau
  • 100g o friwsion bara
  • Croen 1 oren
  • 2 ewin garlleg - wedi eu gratio
  • Sudd 1 oren
  • 1 darn o sinsir 2cm - wedi ei blicio a’i gratio
  • 100g o fricyll wedi eu torri
  • 1 ŵy canolig wedi ei guro
  • Pupur du wedi ei falu’n ffres
  • 1 llwy fwrdd o bersli a saets wedi eu malu’n ffres

Ar gyfer y saws

  • 2 afal bwyta - wedi eu plicio, eu creiddio a’u torri’n 8 darn
  • 50g o fenyn
  • 1 llwy fwrdd o fêl
  • Calvados – joch da!
  • 150ml o sudd afal
  • 100ml o hufen chwipio

 



Dull

Porc a’r Stwffin

  1. Cynhesu’r ffwrn i wres o 200ºc / 400ºf / Nwy Marc 6 ymlaen llaw
  2. Coginio’r cnau pîn yn sych hyd nes eu bod yn troi’n lliw euraidd, eu tynnu o’r badell ffrio a’u rhoi i un ochr
  3. Toddi’r menyn yn yr un badell ffrio.  Ychwanegu’r cennin a’u coginio’n araf hyd nes eu bod yn feddal. Gadael iddynt oeri
  4. Ychwanegu gweddill  cynhwysion y stwffin at y cennin a’u cymysgu’n dda mewn powlen gyda’r ŵy wedi ei guro
  5. Rhoi’r stwffin mewn bag peipio
  6. Gan ddefnyddio cyllell finiog, hir, torri drwy ganol y llwyn.(os nad yw’r gyllell yn ddigon hir, torri’n ofalus o’r ddau ben i greu poced)
  7. Peipio’r stwffin i mewn i’r toriad o’r ddau ben gan sicrhau bod y poced yn llawn. Rhoi darn o’r croen dros y ddau ben a’i glymu gyda llinyn, bydd hyn yn atal y stwffin rhag dod allan wrth goginio
  8. Rhoi ar dun pobi, ei sesno gyda halen a phupur a’i goginio am 15 munud fesul pwys ac adio 15 munud ychwanegol
  9. Tynnu o’r ffwrn a’i orffwys am 10 munud cyn torri golwyth i bob person

Saws

  1. Toddi’r menyn a’r mêl mewn padell ffrio
  2. Ychwanegu’r afalau gan goginio am 5 munud neu hyd nes eu bod yn dechrau meddalu a troi’n lliw euraidd
  3. Yn ofalus, ychwanegu’r calvados i’r badell frio a’i fflamio
  4. Arllwys y sudd afal a lleihau’r cyfaint o hanner
  5. Ychwanegu’r hufen a’i fud-ferwi hyd nes bod y saws yn dechrau tewhau

 

 

Allweddeiriau

Cig Ac Offal Porc Stwffio Ynys Môn