Ryseitiau


Cacennau Cranc Cemaes

Digon i 4



Cynhwysion

  • 50g cracers
  • 450g cranc, cig gwyn yn unig
  • 1 llwy fwrdd persli ffres wedi dorri’n fân
  • 1 llwy fwrdd coriander ffres wedi dorri’n fân
  • 1 ŵy
  • 2 llwy fwrdd mayonnaise
  • Zest leim
  • Sudd ½ Leim
  • ½ llwy de o bupur Cayenne
  • 1 llwy de o saws ‘Nam pla’ (saws pysgod)
  • 75g o fenyn
  • Salad roced, mayonnaise a sleisen o lemwn ar gyfer garnais.


Dull

  1. Gosod y cracers mewn bag plastig a’u malu gyda pin rholio toes i greu briwsion bras
  2. Rhoi cig gwyn y cranc mewn powlen gyda’r perlysiau a’r briwsion cracer a’u cymysgu
  3. Mewn powlen glân - curo’r wy, ychwanegu’r mayonnaise, zest a sudd y leim a’r powdr cayenne a’u cymysgu’n dda
  4. Ychwanegu ¾ o’r gymysgedd mayonnaise at gig y cranc a’i gymysgu. Os bydd y gymysgedd yn rhy sych ychwanegwch weddill y saws mayonnaise fesul tipyn hyd nes bod yr ansawdd cywir- dim rhy wlyb a dim rhy sych
  5. Rhannu’r gymysgedd yn 8 siap pêl
  6. Gwasgu pob pelen i greu siâp crwn fflat 2 cm o drwch
  7. Gadewch i’r cacennau orffwys ychydig cyn eu coginio er mwyn i’r briwsion cracers amsugno lleithder y cranc
  8. Cynhesu’r menyn mewn padell ffrio a choginio’r cacennau cranc hyd nes eu bod yn liiw euraidd ar bob ochr
  9. Gweini’r cacennau gyda salad roced, mayonnaise a lemwn ffres

Allweddeiriau

Pysgod a Bwyd Môr Cranc Ynys Môn