Ryseitiau
Ffiled o Borc wedi Stwffio Gyda Perlysiau
Cynhwysion
y tatws
- 2 llwy fwrdd olew olewydd
- 500g tatws wedi torri’n chwarteri ac yna eu sleisio'n denau
- 1 winwnsyn, wedi dorri’n stribedi
- 2 ewin garlleg wedi dorri’n fân
- 160ml stoc cyw iâr (digon i orchuddio’r tatws)
y porc
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 25g o fenyn
- 1 llwy fwrdd o bersli ffres wedi dorri’n fras
- 1 llwy fwrdd o Mintys y graig ffres wedi dorri’n fras
- Pinsied dda o halen a phupur
- 2 llwy fwrdd o gnau Ffrengig
- 2 ffiled o borc
y saws
- 4 llwy de o fwstard cyflawn
- 4 llwy fwrdd o hufen dwbl
- 100ml stoc cyw iâr
Dull
y tatws
- Cynhesu’r olew mewn Woc neu ffrimpan ddofn
- Coginio’r tatws, winwns, garlleg, halen a phupur yn yr olew hyd nes iddynt ddechrau troi'n liiw euraidd gan gofio ei droi yn rheoliadd i arbed y cyfan rhag glynu
- Arllwys y stoc dros y tatws a’u mud ferwi dan gaead hyd nes bod y tatws yn dyner ac wedi eu coginio
y porc
- Torri’r porc ar ei hud a’i agor fel bod y cig yn ei hanner. Byddwch yn ofalus i beidio a thorri twll yn y cig
- Ysgeintio'r perlysiau, y cnau a’r halen a pupur gros ganol y cig yna dod a'r ochrau at eu gilydd a'i glymu’n daclus gyda cortyn
- Sesno'r cig gyda halen a pupur
- Cynhesu'r olew a’r menyn mewn ffrimpan a choginio’r cig dros wres cymhedrol hyd nes yn troi'n liiw euraidd. Tynnu’r cig o'r ffrimpan a’i gadw’n gynnes
y saws
- Ychwanegu’r mwstard a’r hufen i'r ffrimpan cig a'i mudferwi
- Ychwanegu’r stoc a coginio’r saws hyd nes iddo dewhau
- Tynnu’r cortyn oddi ar y cig a’i dorri’n haenau a'i weini gyda’r tatws a’r saws
