Ryseitiau


Brithyll y Môr gyda saws gwin gwyn a brenhinllys



Cynhwysion

  • 50g o fenyn
  • 50g o foron wedi torri’n denau
  • 50g o ffenigl wedi dorri’n fân
  • 50g o gennin wedi torri’n fân
  • 50ml o win gwyn
  • 400ml o stoc cyw iâr
  • 1 brithyll cyfan wedi ffiledu
  • 6 deilen brenhinllys
  • 1/2 llwy de sudd lemwn
  • Halen a pupur yn ôl eich blas


Dull

  1. Toddi 30g o fenyn mewn padell ffrio a choginio’r llysiau am 3 munud dros wres cymhedrol dan gaead hyd nes i’r llysiau ddechrau meddalu
  2. Arllwys y gwin a’r stoc dros y llysiau a’u mud ferwi hyd nes i’r stoc leihau i hanner y maint gwreiddiol
  3. Sesno’r pysgod a rhoi'r ffiledi ar ben y llysiau gyda ychydig o dail brenhinllys. Rhoi'r caead yn ôl a cooginio cyfan am oddeutu 7 munud hyd nes bo’r pysgodyn wedi coginio'r
  4. Tynnu’r pysgodyn allan a’i gadw’n gynnes tra bod y saws yn cael ei orffen
  5. Ychwanegu 20g o fenyn a sudd y lemwn at y llysiau a’r stoc a’i fud ferwi er mwyn ei dwchu rhyw fymryn cyn ei weini gyda’r pysgodyn

Allweddeiriau

Pysgod a Bwyd Môr gwin brenhinllys Llundain