Y Cogyddion
Hefin Roberts

Mae Hefin Roberts yn gogydd yn un o dai bwyta gorau Ynys Môn, sef Y Bull, Beaumaris. Mae gan y gwesty dŷ bwyta crand â bistro hynod o boblogaidd. Yn wreiddiol o Dregarth, ac wedi dilyn cwrs arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, mae Hefin yn awyddus i barhau i weithio yng Nghymru ac agor tŷ bwyta ei hun. Mae Hefin yn aelod o dîm cogyddion Cymru ac wedi teithio'r byd yn cystadlu dros ei wlad.
Sarah Lewis

Mae Sarah Lewis yn 19 mlwydd oed, ac wedi bod yn gweithio ym mwyty Branwen, Harlech am ddwy flynedd. Yn ogystal â gweithio mewn cegin mae hi hefyd yn brysur yn astudio i orffen ei blwyddyn olaf mewn cwrs arlwyo yng Ngholeg Dolgellau. Gobaith Sarah yw coginio ar y cychod mawr moethus a theithio'r byd.
Lee Coleman

Mae Lee Coleman yn 19 mlwydd oed ac yn wreiddiol o Hwlffordd. Ers chwech mis mae Lee wedi bod yn gweithio ym Mwyty Parc Slebech ar lân yr afon Cleddau. Uchelgais Lee ar gyfer y dyfodol yw cael y cyfle i ddysgu am bob agwedd o'r diwydiant arlwyo drwy deithio'r byd a gweithio ar longau moethus.
Hywel Griffiths

Mae Hywel Griffiths yn 26 mlwydd oed ac yn dod o Fethesda. Mae'n gogydd sydd wedi ennill profiad yn gweithio yng Ngwesty Chester Grosvenor yng Nghaer ond bellach yn gweithio ym Mwyty Seren Michelin Ynyshir Hall. Rhedeg bwyty ei hun yng Nghymru ac ennill Seren Michelin ei hun yw uchelgais Hywel.
Dafydd Watkin

Mae Dafydd Watkin yn 29 mlwydd oed ac yn enedigol o ardal Tregaron. Ar hyn o bryd mae Dafydd yn gweithio fel cogydd yng Ngwesty'r Ritz yn Llundain, ond cyn hynny bu'n gweithio i Marco Pierre White a Raymond Blanc. Bwriad Dafydd yw dychwelyd i Gymru i agor tŷ bwyta ei hun fydd yn defnyddio cynnyrch lleol gorau.
Tom Pennant Parry

Bu Tom Pennant- Parry yn gweithio yng Ngwesty'r Bull, Beaumaris, ond wedi iddo symud i Gaerdydd fe ddechreuodd weithio ym mwyty Le Gallois. Heb unrhyw wersi coginio yn yr ysgol na choleg, ei angerdd at fwyd a choginio sy'n gyrru Tom. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn bwyd tymhorol ac wrth i fodd yn chwilota gwrychoedd am fwydydd gwyllt. Ei obaith yw datblygu ei grefft ymhellach a chael cyfle i weithio yn rhai o dai bwyta gorau Sbaen.
